Fri 3 Jun 2016

Caerdydd Roald Dahl

Ganed Roald Dahl yng Nghaerdydd ar 13 Medi 1916. Treuliodd y rhan fwyaf o’I fywyd cynnar yn Llandaf a mynychodd Ysgol y Gadeirlan Llandaf cyn symud ymlaen I St Peter’s, Weston-Super-Mare. Yn ei hunangofiant cyntaf Boy: Tales of Childhood mae Dahl yn adrodd hanes ei flynyddoedd cynnar ac yn hel atgofion am blentyndod a dreuliwyd ym mhrifddinas Cymru.

Fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100 Cymru, mae Llenyddiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru wedi comisiynu map sy’n dangos Caerdydd Roald Dahl. Wedi’i ddylunio gan Sarah Edmonds, mae’r map yn tynnu sylw at leoliadau cysylltiedig â’r storïwr enwog megis siop losin Mrs Pratchett – lleoliad ‘The Great Mouse Plot’, cartref plentyndod Roald Dahl a’r Eglwys Norwyaidd lle cafodd ei fedyddio.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho map Caerdydd Roald Dahl (pdf).

Yn ôl i Newyddion